Cyrraedd
Cysylltir a chi cyn eich ymweliad I drefnu amser addas (o 4pm I grwpiau syn aros dros y penwythnos). Os byddwch yn cyrraedd at ol 4.30pm, caiff gwybodaeth iechyd a diogelwch ei gadael yn y Ty i chi. Bydd eich grwp yn gyfrifol am yr adeilad tan y byddwch yn gadael; trefnir yr amser hwn a’r Rheolwr.
Cyfleusterau
Cynllun yr ystafelloedd gwely:
32 o welyau wedi’u rhannu i 1×1 (en-suite), 1×1 (en-suite gwbl hygyrch), 1×1 (gwely sengl), 1×1 (gwely dwbl), 7×4 (gwelyau bync). Mae gan bob in dy bach preifat. Darperir yr holl ddillad gwely.
Ystafell fwyta/ystafell fyw:
Mae 1 ystafell fawr aml-ddefnydd/ystafell deledu/ystafell gyfrifiaduron ac ystafell fwyta a lle I 32 eistedd.
Cegin:
Mae’r gegin hunanarlwyo yn cynnwys 2 gwcer domestig, 2 ffwrn ficro-don, 2 rewgell fawr, peiriant golchi llestri ac amrywiaeth o gyfarpar cegin, llestri a chytleri i 32 o bobl. Darperir llieiniau sychu llestri.
Cyfleusterau ymolchi:
Mae 9 cawod ac 11 ty bach (2 yn gwbl hygyrch). Dewch a’ch tywelion eich hun.
Yr ardd:
Mae gardd fawr yng nghefn yr adeilad a meinciau picnic.
Gwresogi:
Mae gwres canolog drwy’r adeilad.
Cyfarwyddiadau
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 42. Dilynwch yr A483 i ganol Abertawe ac yna dilynwch yr A4047 i’r Mwmbwls a Gwyr. Oddeutu 2 filltir y tu allan i Abertawe, trowch i’r dde at y B4436 ag arwydd Llandeilo Ferwallt. Ar ol 4 milltir, trowch i’r dde at ol Kittle a throi i’r chwith at yr A418 wrth y gyffordd nesaf. Gyrrwch at hyd yr A4118 nes i chi gyrraedd Porth Einon. Trowch i’r chwith wrth arwydd Ty’r Borfa ac ewch i’r ty olaf at y dde.
Meysydd parcio:
Mae lle i barcio 3 bws mini neu 5 car at y safle. Ceir maes parcio ychwanegol gerllaw.
Gwybodaeth arall
Amserau prydau bywd i westeion llety cyflawn ac ysgolion:
Brecwast – 8.15am
Cinio- 12.15pm
Cinio nos- 5.15pm
Am resymau hylendid, ni chaniateir cwn yn yr adeilad. Fodd bynnag mae’n bosib gwneud trefniadau arbennig at gyfer Cwn Cymorth Cofrestredig.
Ni chaniateir smygu na defnyddio canhwyllau, golau bach neu dan gwyllt (dan do neu awyr agored) yn yr adeilad.
Mae gan Dy’r Borfa radd 3* gan Croeso Cymru.
This post is also available in: English (English)