Gyda golygfeydd godidog a thraethau tywodlyd gerllaw, mae Rhosili’n enwog am ei arfordir a’i draethau hardd, ac fe’i pleidleisiwyd yn draeth gorau’r DU. Mae’n gyrchfan poblogaidd i gerddwyr, syrffwyr a selogion chwareon dwr.
O gwmpas y pentir mae Mewslade a Phen Pyrod – dau o drysorau cudd Penrhyn Gŵyr.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Lleoliad ar waelod Twyni Rhosili
- Gardd fawr sy’n wynebu’r de
- Patio allanol a barbeciw
- Golygfeydd anhygoel dros y forlin
- Llety i 18 (cymysgedd o fynciau a rhai ystafelloedd heb fynciau)
- Setiau teledu clyfar
- Cyfleusterau cynadledda
- Parcio
- Wifi/ystafell sychu/cawod allanol
- Cyfforddus ar y tu mewn
- Hunanarlwyo/llety cyflawn
- Darperir yr holl ddillad gwely
- Darperir yr holl gyfarpar ac offer coginio
- Darperir yr holl fagiau gwastraff a biniau
- Cyfleuster diogel a larwm
Rhosili
Mae Rhosili’n lleoliad sy’n enwog yn rhyngwladol, yn rhannol oherwydd ei forlin ysgubol o’r enw Bae Rhosili, sy’n cael ei farnu’n un o’r traethau gorau yn y byd yn rheolaidd. Hefyd, mae gan Rosili rai tirnodau eiconig megis Pen Pyrod (ynys lanw a golwg arallfydol), yn ogystal a thwyni hardd ac ysgubol Rhosili a llongddrylliad yr Helvetia.
Ynghyd a siopau, caffis a bwytai prysur, mae Rhosili’n lleoliad bendigedig am wyliau, os a ydych yn chwilio am antur neu gyfle i ymlacio.
Mwy o wybodaeth am Tŷ Rhosili.
Prisiau
This post is also available in: English (English)