Gower Activity Centres

  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltu a ni
    • Ein staff
    • Ein llysgennad Lowri Morgan
    • Gŵyr
  • Canolfannau
    • Tŷ’r Borfa, Bae Porth Einon
    • Tŷ Rhosili, Rhosili
  • Gweithgareddau
    • Ar y tir
      • Dringo creigiau/Abseilio
      • Antur ar y creigiau/sgrafangu arfordirol
      • Heicio/Cerdded bryniau
      • Cyfeiriannu/llywio
      • Antur yn y coetir/crefft y goedwig
    • Ar y dwr
      • Corff-fyrddio
      • Arfordiro
      • Cerdded Ceunentydd
      • Caiacio
      • Padlo bwrdd ar draed (SUP)
      • Syrffio
  • Pecynnau
    • Ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid
      • Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe
      • Y drefn ddyddiol i ysgolion sy’n ymweld a’n canolfannau
    • Adeiladu tim
    • Cynadleddau
You are here: Hafan / Amdanom ni / Ein llysgennad Lowri Morgan

Ein llysgennad Lowri Morgan

Enwyd Lowri Morgan fel y llysgennad dros wasanaeth gweithgareddau awyr agored Cyngor Abertawe sy’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn i fwynhau’r awyr agored.

Mae Lowri, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gŵyr, wedi cymryd rhan mewn sawl marathon eithafol gan gynnwys Marathon yr Arctig 6633 sy’n 350 o filltiroedd a Marathon y Jwngl sy’n cynnwys llwybr 230 milltir trwy goedwig law’r Amason.

Fel rhan o’i rôl newydd â gwasanaeth gweithgareddau awyr agored y cyngor ym mhenrhyn Gŵyr, bydd Lowri’n helpu i hyrwyddo digwyddiadau a chefnogi gweithgareddau gan gynnwys dringo, heicio, crefft y goedwig, cerdded bryniau, cerdded ceunentydd, syrffio, arfordiro a chaiacio.

Meddai Lowri, “Rwyf wrth fy modd i fod yn llysgennad ar gyfer gwasanaeth gweithgareddau awyr agored y cyngor ar benrhyn Gŵyr, yn enwedig gan mai Gŵyr wnaeth fy nghyflwyno i’r byd o anturiaethau yn y lle cyntaf.

“Rwyf hefyd yn frwdfrydig am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau’r awyr agored, felly mae’n anrhydedd fy mod yn gallu chwarae rhan fach wrth helpu i gyflawni hyn yn Abertawe sef fy ninas enedigol.”

Gan ddefnyddio’r enw ‘Mae’n Amser Gŵyr’, mae Lowri hefyd yn siarad mewn fideo hyrwyddol newydd i Ganolfannau Gweithgareddau Gŵyr.

This post is also available in: English (English)

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

01792 390481 neu 07971 861376

Ebost: Canolfannau Gweithgareddau Gwyr

Copyright © 2025 · Swansea Council · Privacy policy