Gower Activity Centres

  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltu a ni
    • Ein staff
    • Ein llysgennad Lowri Morgan
    • Gŵyr
  • Canolfannau
    • Tŷ’r Borfa, Bae Porth Einon
    • Tŷ Rhosili, Rhosili
  • Gweithgareddau
    • Ar y tir
      • Dringo creigiau/Abseilio
      • Antur ar y creigiau/sgrafangu arfordirol
      • Heicio/Cerdded bryniau
      • Cyfeiriannu/llywio
      • Antur yn y coetir/crefft y goedwig
    • Ar y dwr
      • Corff-fyrddio
      • Arfordiro
      • Cerdded Ceunentydd
      • Caiacio
      • Padlo bwrdd ar draed (SUP)
      • Syrffio
  • Pecynnau
    • Ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid
      • Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe
      • Y drefn ddyddiol i ysgolion sy’n ymweld a’n canolfannau
    • Adeiladu tim
    • Cynadleddau
You are here: Hafan / Ar y tir / Heicio/Cerdded bryniau

Heicio/Cerdded bryniau

Sesiynau heicio am £45 yn unig

Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.

Mae Cymru’n unigryw ac mae ei thirwedd yn enwog am ei mynyddoedd a’i bryniau tonnog. Hefyd, mae llwybr arfordirol parhaus cyntaf y byd o gwmpas ei phermedr am 870 o filltiroedd llawn golygfeydd trawiadol.

Mae’n amser i chi fynd am dro!

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

Rhowch gyfle i ni eich helpu i brofi rhai o’r ardaloedd heicio a cherdded bryniau gwych sydd yn ne Cymru. Mae Penrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog yn ddau o’n hoff leoedd chwarae a gallwn gynnig teithiau cerdded tywys, cludiant ac opsiynau llety i gerddwyr.

A yw hyn yn addas i fi?

Mae heicio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pawb. Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae ganddynt gymwysterau cymorth cyntaf i sicrhau diogelwch a mwynhad cyfranogwyr.

Beth bydd ei angen arnaf?

  • Trowsus tebyg i dracwisg
  • Top cynnes (llewys hir)
  • Menig
  • Trenyrs neu esgidiau cadarn
  • Siaced ddwrglos
  • Diod
  • Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
  • Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
  • Dillad sy’n addas i’r tywydd
  • Gwarbac bach neu sach deithio
  • Het

Rydym yn darparu

  • Yr holl offer cymorth cyntaf a chyfarpar
  • Mapiau a chwmpawdau
  • Arweinyddion bryniau a mynyddoedd
  • Gyrwyr bysus mini

A allaf gael mwy nag un sesiwn?

Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 sesiwn a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o lwybrau a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4).

This post is also available in: English (English)

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

01792 390481 neu 07971 861376

Ebost: Canolfannau Gweithgareddau Gwyr

Copyright © 2025 · Swansea Council · Privacy policy