Gower Activity Centres

  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltu a ni
    • Ein staff
    • Ein llysgennad Lowri Morgan
    • Gŵyr
  • Canolfannau
    • Tŷ’r Borfa, Bae Porth Einon
    • Tŷ Rhosili, Rhosili
  • Gweithgareddau
    • Ar y tir
      • Dringo creigiau/Abseilio
      • Antur ar y creigiau/sgrafangu arfordirol
      • Heicio/Cerdded bryniau
      • Cyfeiriannu/llywio
      • Antur yn y coetir/crefft y goedwig
    • Ar y dwr
      • Corff-fyrddio
      • Arfordiro
      • Cerdded Ceunentydd
      • Caiacio
      • Padlo bwrdd ar draed (SUP)
      • Syrffio
  • Pecynnau
    • Ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid
      • Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe
      • Y drefn ddyddiol i ysgolion sy’n ymweld a’n canolfannau
    • Adeiladu tim
    • Cynadleddau
You are here: Hafan / Amdanom ni / Pecynnau / Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe

Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe

Sylwer y dyrennir dyddiadau ar sail y cyntaf i’r felin ac na allwn warantu y byddwch yn cael y dyddiad(au) a nodir yn y cais. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyrannu dyddiad(au) mor agos a phosib at y dyddiadau ar eich ffurflen cadw lle.

Ffurflen caniatad rhieni

Mae’r holl drefniadau’n dibynnu ar dderbyn Ffurlen Caniatad Rhieni ar gyfer pob unigolyn sy’n cymryd rhan. Ni chynhelir ymweliad nes y bydd Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr wedi derbyn y ffurflenni oherwydd gweithdrefnau diogelu gwell. Anfonwch y ffurflenni i gcg@abertawe.gov.uk.

Trefniadau cludiant

Yr ysgol sy’n gyfrifol am drefnu a thalu am y bws a fydd yn codi eich grwp o’r ysgol ddydd Llun am 9.30am ac yn gadael y ganolfan ddydd Gwener am 1.30pm.

Os yw’ch ysgol yn gwneud wythnos hollt, yr ysgol sy’n gyfrifol am drefnu a thalu am y bws trosglwyddo ganol yr wythnos.

Yn ystod yr wythnos, byddwn ni’n darparu’r cludiant ar gyfer y gweithgareddau rydym yn eu cynnal.

Lle

Isafswm niferoedd

Bydd isafswm niferoedd yn ei le ar gyfer y canolfannau a chodir tal disgybl llawn ar yr ysgol os nad yw’r canolfannau’n llawn.

Yr isafswm niferoedd yw:

Tŷ Borfa – 24 o ddisgyblion

Tŷ Rhossili  – 12 o ddisgyblion

Yn anffodus, o ganlyniad i arweiniad yn deillio o Adolygiad Comisiynu Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr, nid yw hyn yn agored i’w drafod a chaiff y rheol ei gorfodi, ni waeth beth fo’r amgylchiadau.

Uchafswm niferoedd

Yr uchafswm niferoedd yw:

Tŷ Borfa – 35 o blant (28 gwely + 7 matres), 4/6 o staff (4 gwely (un dwbl) + 1 matres)

Tŷ Rhossili – 22 o blant (17 gewly _ 5 matres), 3 o staff.

Ffurflenni cofnodi tal

Byddwch yn derbyn Ffurflen Cofnodi Tal gyda’ch pecyn cadarnhau. Rhaid cwblhau a dychwelyd y ffurflen hon drwy e-bost i gcg@abertawe.gov.uk ar ddiwedd eich ymweliad. Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad yn hyn o beth oherwydd ei fod yn hollbwysig i weithredu’r canolfannau a’u cynaladwyedd.

Mae’r ffioedd ar gyfer canolfannau’r Borfa a Rhosili yn talu am arhosiad 4 noson/5 niwrnod o fore dydd Llun tan brynhawn dydd Gwener ac yn cynnwys yr holl lety prydau, byrbrydau a gweithgareddau awyr agored.

I ddisgyblion sy’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol o ran budd-daliadau, h.y. prydau ysgol am ddim, y gost fydd am arhosiad 4 noson/5 niwrnod.

Cewch eich afonebu am gost eich arhosiad ar ol ni dderbyn eich Ffurflen Cofnodi Tal. Gofynnir i chi beidio a thalu tan i chi dderbyn eich anfoneb.

Ffioedd

Brodyr a chwiorydd

Os bydd brodyr/chwiorydd ar yr un cwrs (dydd Llun i ddydd Gwener), caniateir gostyngiad o 25% ar y gyfradd gyfredol ar gyfer pob brawd/chwaer iau.

Staff addysgu a chefnogi

Gall staff addysgu/cefnogi preswyl fynd am ddim ar y gymhared 1/10 disgybl.

Arosiadau hanner wythnos

Pecynnau 2 noson (a 3 diwrnod) yn unig yw arhosiad hanner wythnos. Gellir cyd-drafod pecynnau gwahanol. Gellir defnyddio’r rhain fel wythnos hollt gan newid y grwp yng nghanol yr wythnos neu fel pecynnau unigol.

TAW

Mae ymweliadau a’r canolfannau wedi’u heithrio o TAW ar yr amod bod yr ymweliadau’n addysgol ac yn rhan o’r cwricwlwm.

Anfonebu

Mae amodau talu o fewn 30 diwrnod yn berthnasol.

Iechyd a diogelwch

Cysylltwch a ni os oes angen copi o’n ‘Holiadur Darparwr Annibynnol’ a/neu’r ddogfen ‘Asesiad Risg i Ysgolion.’

Gweithgareddau

Er y gallwch ddewis eich gweithgareddau, bydd y penderfyniad terfynol o ran ymarferoldeb, addasrwydd y tymor a diogelwch yn nwylo Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr. Mae’r holl weithgareddau’n amodol ar y tywydd a’r llanw. Trefnir gweithgareddau eraill mewn tywydd anffafriol.

Mae gweithgareddau gyda’r nos ar gael ar gais, yn amodol ar argaeledd staff ac a chaniatad staff y ganolfan ymlaen llaw. Codir tal ychwanegol fesul person y nos. Cysylltwch a’r Swyddfa Weinyddol am fanylion.

Dylai ysgolion sy’n cadw lle gyda ni fod yn barod i gydymffurfio a’n cod ymarfer o ran diogelu’r amgylchedd naturiol ac mae’n rhaid iddynt hefyd ddilyn cyfarwyddiadau diogelwch ein hyfforddwyr ar bob adeg. Er caiff hyfforddwyr eu dewis am eu profiad wrth arwain gweithgareddau a’u gallu i roi cyngor ar weithdrefnau diogelwch ac ymddygiad ar safle’r gweithgaredd,  mae’n bwysgi cydnabod bod gan gyfranogwr ac athrawon gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd yr holl ragofalon rhesymol i gynnal eu diogelwch eu hunain ac i beidio a pheryglu aelodau eraill o’r grwp.

Atebolrwydd

Ni ellir derbyn cyfrifoldeb am eiddo neu gerbydau modur unrhyw ddisgybl/athro sy’n cael ei golli neu ei ddifrodi. Mae’n rhaid i ddisgyblion/athrawon barhau’n gyfrifol am eu heiddo eu hunain, gan gynnwys arian ac eitemau gwerthfawr.

Prisiau

Mae’r prisiau isod fesul disgybl am becyn dydd Llun i ddydd Gwener neu am wythnos hollt yn ystod tymor yr ysgol.

This post is also available in: English (English)

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

01792 390481 neu 07971 861376

Ebost: Canolfannau Gweithgareddau Gwyr

Copyright © 2025 · Swansea Council · Privacy policy