Gower Activity Centres

  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cysylltu a ni
    • Ein staff
    • Ein llysgennad Lowri Morgan
    • Gŵyr
  • Canolfannau
    • Tŷ’r Borfa, Bae Porth Einon
    • Tŷ Rhosili, Rhosili
  • Gweithgareddau
    • Ar y tir
      • Dringo creigiau/Abseilio
      • Antur ar y creigiau/sgrafangu arfordirol
      • Heicio/Cerdded bryniau
      • Cyfeiriannu/llywio
      • Antur yn y coetir/crefft y goedwig
    • Ar y dwr
      • Corff-fyrddio
      • Arfordiro
      • Cerdded Ceunentydd
      • Caiacio
      • Padlo bwrdd ar draed (SUP)
      • Syrffio
  • Pecynnau
    • Ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid
      • Amodau a thelerau cadw lle i ysgolion Abertawe
      • Y drefn ddyddiol i ysgolion sy’n ymweld a’n canolfannau
    • Adeiladu tim
    • Cynadleddau
You are here: Hafan / Amdanom ni / Gweithgareddau / Ar y dwr / Syrffio

Syrffio

Gwersi syrffio am £45 yn unig

Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.

Wrth feddwl am Benrhyn Gŵyr, rydych yn meddwl am syrffio, felly beth am ddysgu sut i syrffio gyda Chanolfannau Gweithgareddau Gŵyr? Mae ein hyfforddwyr yn adnabod traethau Gŵyr yn well nag unrhyw un ac rydym yn cynnal ein gwersi syrffio yn Rhosili, Llangynydd a Bae Caswell, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

Mae syrffio’n un o’r chwaraeon mwyaf ffasiynol sydd ar gael a bydd ein hyfforddwyr yn eich ysgogi i brofi gwefr dal ton a theithio arni. Byddant hyd yn oed yn tynnu rhai ffotograffau ohonoch yn syrffio ton os gofynnwch yn gwrtais!

A yw hyn yn addas i fi?

Mae syrffio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl ac rydym yn dwlu ar annog pob person posib i fynd i’r dwr. Mae ein byrddau arbennig i ddysgwyr wedi’u dylunio i’ch helpu i wella ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.

Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gyhyd, o amser ag y bydd ei angen arnoch yn y dwr, gyda llawer o amser i orffwys cyn rhoi cynnig arall arno.

Beth bydd ei angen arnaf?

  • Dillad cynnes
  • Hen drenyrs
  • Top dwrglos
  • Dillad nofio
  • Tywel
  • Diod
  • Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
  • Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)

Rydym yn darparu

  • Yr holl gyfarpar syrffio
  • Siwtiau dwr
  • Yr holl gyfarpar diogelwch

A allaf gael mwy nag un wers?

Gallwch. Yn ogystal a gwers unigol gyda ni, gallech gadw lle ar ein penwythnosau Dysgu Sut i Syrffio lle byddwn yn gallu datblygu eich sgiliau ychydig yn gynt. Neu gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).

S124-046-800px (1)
SVW-C23-0910-0055-1200PX
S115-729-A3-800px
SVW-A08-1011-0054-800px
S98-108-SP-1200PX (2)
S130-381-D-1200PX
SVW-C07-1011-0268-1200PX

This post is also available in: English (English)

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

01792 390481 neu 07971 861376

Ebost: Canolfannau Gweithgareddau Gwyr

Copyright © 2025 · Swansea Council · Privacy policy