Cynigir llety i 32 o bobl mewn cymysgedd o ystafelloedd cymunedol, ac ystafelloedd ag un neu ddau wely, i gyd ag ystafelloedd ymolchi pwrpasol neu gyfleusterau en-suite. Mae Tŷ’r Borfa’n lleoliad enwog ar lan môr Bae Porth Einon sy’n berffaith ar gyfer gwyliau grŵp.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Gardd fawr yn y cefn
- Patio allanol a barbeciw
- Llety i 32 (cymysgedd o fynciau a rhai ystafelloedd heb fynciau)
- Setiau teledu clyfar
- Cyfleusterau cynadledda
- Parcio
- Wifi/ystafell sychu/cawod allanol
- Mae opsiynau hunanarlwyo/llety cyflawn ar gael
- Darperir yr holl ddillad gwely
- Darperir yr holl gyfarpar ac offer coginio
- Darperir yr holl fagiau gwastraff a biniau
- Cyfleuster diogel a larwm
Prisiau
Porth Einon
Mae Porth Einon yn cynnig traeth Baner Las sy’n addas i deuluoedd.
Ym mhen pellaf Bae Porth Einon mae adfail 18fed ganrif yr hen Dŷ Halen a oedd yn echdynnu halen o’r môr yn wreiddiol, er y credir y cynhelid y busnes hwn i gelu’r ffaith bod nwyddau’n cael eu smyglo.
Heibio’r penrhyn, byddwch yn dod o hyd i Dwll Culver, Ogof Pen-y-fái (Pafiland) a llwybr yr arfordir sy’n dod i ben yn Rhosili.
Llawn siopau, caffis a pharlyrau hufen iâ, heb sôn am byllau trai a chlogwyni, mae rhywbeth at ddant pawb sy’n ymweld a Phorth Einon. Mwy o wybodaeth am Dŷ’r Borfa.
This post is also available in: English (English)