Mae ein staff profiadol ar gael bob amser i sicrhau y cewch bopeth rydych yn ei ddymuno o’ch ymweliad a Chanolfannau Gweithgareddau Gwyr. Os ydych am gael cyngor lleol, cyfarwyddiadau neu help i drefnu’r arhosiad perffaith, mae gennym rywbeth i chi.
Rheolwr
Damian James (Damian.james@swansea.gov.uk)
Dechreuodd Damian weithio yn y diwydiant awyr agored dros 15 mlynedd yn ol wrth gwblhau ei radd mewn rheoli gweithgareddau awyr agored. Ers hynny, mae wedi gweithio’n rhyngwladol fel hyfforddwr, achubwr bywyd a thywyswr, ac yn y sectorau addysg a thwristiaeth yn y wlad hon.
Tim Gweinyddu a Lletygarwch
Mae Karen a Donna wedi gweithio yn y canolfannau ers bron 10 mlynedd ac mae’r ddwy ohonynt wedi cael gyrfaoedd hir ym meysydd cyllid a gweinyddu busnes. Maent yn sicrhau bod gwesteion yn wybodus a bod eu hymweliad yn mynd rhagddo yn ol y disgwyl.
Hyfforddwyr
Mae ein tim o hyfforddwyr yn meddu ar nifer o gymwysterau cyrff llywodraeth cenedlaethol gorfodol mewn amrywiaeth o feysydd. Maent yn ymgymryd a phroses sefydlu bwrpasol ac yn darparu sesiynau difyr, diogel ac effeithiol ledled Gwyr a’r ardal gyfagos.
Tim Domestig ac Arlwyo
Mae ein tim domestig ac arlwyo’n meddu ar yr holl gymwysterau gwaith domestig angenrheidiol – dyma griw profiadol a chyfeillgar a fydd yn gofalu amdanoch yn ystod eich arhosiad.
This post is also available in: English (English)