Mae pawb yn dwlu ar barti, boed hwnnw ar gyfer plant bach neu blant hyn, a gallwn wneud eich parti chi’n un hollol EPIG! Gallwn sicrhau bod eich diwrnod mawr chi’n llwyddiant ysgubol, nail ai drwy drefnu diwrnod gweithgareddau yn unig, neu ei gyfuno ag un o’n hopisynau ar gyfer parti preswyl.
Partion plant 
Gall archwilwyr bach brofi ein digwyddiadau ar thema Chwedlau Gwyr ac esgus bod yn forladron, yn Llychlynwyr ac yn archwilwyr.
Partion cyn priodas
Mae penrhyn Gwyr yn enwog ym mhedwar ban byd felly beth am gynnal parti cyn priodas yr un mor enwog yma na fyddwch chi byth yn ei anghofio? Rydym yn darparu diwrnodau gweith gareddau neu, gallwn eu cyfuno a’n hopsiynau llety gwyliau byr sy’n ddelfrydol ar gyfer partion cyn priodas. Mae gweithgareddau poblogaidd yn cynnwys arfordiro ar Ben Pyrod enwog, syrffio ym Mae Rhosili, dringo ym Mae’r Tri Chlogwyn a llawer mwy. Gallwn hefyd ddarparu cyngor ar gyfleusterau yn yr ardal ac ar sut i wneud yn fawr o’ch ymweliad.
Am ragor o wybodaeth ac am brisau, cysylltwch a ni.
Trefniadau grwp
P’un a yw’n aduniad teulu mawr, yn ymweliad grwp a phenrhyn Gwyr i gerdded neu feicio, neu’n angen am le mawr, mae gennym ddwy ganolfan sy’n berffaith ar gyfer unrhyw grwp. Gyda’r opsiwn i ‘ychwanegu’ gweithgareddau a thywyswyr lleol i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch ymweliad ar benrhyn Gwyr, mae llawer o’n hymwelwyr yn dychwelyd atom flwyddyn ar ol blwyddyn.
Am ragor o wybodaeth ac am brisau, cysylltwch a ni.
This post is also available in: English (English)