Gwersi canwio am £45 yn unig
‘Believe me, my young friend, there is nothing – absolutely nothing – half so much worth doing as simply messing around in boats’ Water Rat (Wind in the Willows).
Mae hynny’n taro’r hoelen ar ei phen, yn ein barn ni. Dewch a’ch ffrindiau neu eich teulu i ganwio gyda ni. Byddwn yn dysgu sgiliau newydd i chi, yn chwarae gemau difyr neu’n eich paratoi ar gyfer eich dyfarniadau perfformiad ac arweinyddiaeth.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae canwio’n ffordd ddifyr a gwefreiddiol o fynd allan ar y dwr a bydd ein hyfforddiant arbenigol yn rhoi’r technegau padlo gwych i chi er mwyn gwneud yn fawr o’ch amser yn y cwch. Mae ein cerbydlu o ganwod yn berffaith i’ch helpu i archwilio ein dyfrffyrdd – dyna’r ffordd orau o brofi nature a bywyd gwyllt gwych de Cymru.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae canwio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gellir ei addasu i bob gallu. Mae ein canwod yn cynnig ffyrdd ddiogel o ddysgu, ac mae ein siwtiau dwr yn defynddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gymaint, o amser ag y bydd ei angen arnoch i archwilio a dysgu sgiliau newydd.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar canwio
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £30 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)